Fifilm fer newydd i’w dangos am y tro cyntaf ar BBC Cymru

Awst 7, 2021

I S O S T A S Y

Y Cefndir

Tarddiad y ffilmi hon yw prosiect blaenorol o’r enw E C H O podlediad aml-safle. Y syniad oedd dychmygu ar ryw adeg benodol, ac ar yr un pryd, fod dinasoedd a threfi ledled y Deyrnas Unedig yn cael eu huno gan sŵn cyfarwydd, iasol, o fore oes… cân y morfil, yn adleisio o’r môr o dan haenau iâ Antarctica. Rhybudd sonig a lwyddodd i syfrdanu pawb, a’u hatgoffa bod gorchudd iâ’r pegynau’n dadmer a bod ein planed ar fin mynd â’i phen iddi. Galwad am gymorth gan haid ddigartref, a’u cynefin wedi’i ddinistrio gan bobl. Hwythau ar goll yn y ddinas, yn cyd-ganu er eu bod filltiroedd ar wahân.

Dyna beth mae morfilod yn ei wneud… maen nhw’n defnyddio eco – i leoli ei gilydd, ac i’n lleoli ninnau. Mae’u cân nhw’n creu sŵn mor fawr â’r cefnfor; yn dystiolaeth o ddiwylliant arall, bum miliwn o flynyddoedd yn hŷn na’n diwylliant ni. Ac maen nhw’n defnyddio’r gân i ddweud rhywbeth wrthon ni. Philip Hoare

Chris Watson, sy’n recordio’r sain i David Attenborough, a ddarparodd gân y morfil. Byddai’r gwaith hefyd wedi cynnwys darn newydd o ryddiaith wedi’i gomisiynu gan yr awdur Philip Hoare, sy’n arbenigo ac yn ymddiddori’n fawr mewn morfilod. Cerys Matthews, cyflwynydd ar BBC 6, fyddai’n lleisio.

Comisiynwyd E C H O yn wreiddiol fel rhan o Antarctica In Sight, sef rhaglen ddiwylliannol Ymddiriedolaeth Dreftadaeth yr Antarctig yn y DU i nodi dau gan mlynedd ers darganfod Antarctica. Y bwriad oedd darlledu’r cyfan ledled y wlad ar 21 Mehefin 2019. Yn anffodus, oherwydd COVID-19, cafodd y prosiect ei ganslo. Ond yn hytrach na’i fod yn aros yn syniad da, trawiadol na fyddai fyth yn cael ei wireddu, penderfynais ailddychmygu’r cyfan ar ffurf ffilm. Gwahoddais Simon Clode, sydd wedi gweithio gyda mi fel gwneuthurwr ffilmiau ers tro byd, i gyfrannu.

Penderfynodd Simon a minnau gadw’r sain a’r ffynonellau testun fel prif elfennau’r ffilm, ond gan blethu elfen berfformio ychwanegol yn rhan ohoni, a honno wedi’i seilio ar Edgar Evans o Abertawe. Gŵr oedd hwn a fu gyda Scott yn Antarctica ar ei ddwy daith ar fyrddau’r Discovery a’r Terra Nova. Bu farw Evans mewn amgylchiadau enbydus wrth odre Rhewlif Beardmore (rhewlif mwya’r byd).

Cyflwynwyd Evans i’r naratif drwy ddefnyddio motifau gweledol cryf. Yn eu plith mae arteffactau go iawn, sy’n cynnwys mapiau anghyflawn o Antarctica, esgyrn morfilod, ac eitemau personol y mae Amgueddfa Abertawe wedi dod o hyd iddyn nhw yn ddiweddar. Yn fwyaf nodedig, maen nhw’n cynnwys plât Evan gyda stamp mordaith Discovery arno. At hynny, roedd siop yr amgueddfa, lle mae’r gwrthrychau hyn yn cael eu cadw, yn rhoi lleoliad atgofus perffaith i’r ffilm. Cawson ni ein hysbrydoli hefyd gan yr awyrgylch brawychus yn nrama’r BBC, The Terror, sy’n darlunio taith arswydus i’r pegwn.

Yn gofiadwy iawn, disgrifiwyd Edgar Evans gan Capten Scott fel hyn… “ cawr o weithiwr sy’n gyfrifol am bob sled, am bob gorchudd sled, am y pebyll, am y sachau cysgu, ac am yr harneisi, a phan na all rywun feddwl am unrhyw adeg erioed pan fu’n anfodlon gydag unrhyw un o’r eitemau hyn, mae’n dangos ei werth fel cynorthwywr”.

Mae prif gymeriad y ffilm yn cyfleu corffolaeth a medrusrwydd Evans ond hefyd yn cyfathrebu drwy Iaith Arwyddion Prydain, fel pe bai cân y morfil yn cyfathrebu’n uniongyrchol â’r cymeriad hwn, a maes o law â ninnau drwy symudiadau’i ddwylo.

Chafodd neb erioed hyd i gorff Evans ac mae’n dal i orffwyso rhywle ger Rhewlif Beardmore. Eleni, mae’n 110 o flynyddoedd ers ei farwolaeth. Faint mae’r rhewlif wedi encilio dros y cyfnod hwnnw, tybed? Mae’r cwestiwn hwn yn adleisio’n rymus ar ddiwedd testun Philip, yn llais Cerys… ac mae’r iâ’n dechrau dadmer.

Marc Rees

Saethu’r ffilm

Tarddiad I S O S T A S Y yw prosiect gwreiddiol Marc, sef ECHO. Ond fel nifer o brosiectau, rhoddodd COVID-19 ddiwedd ar hwnnw. Yn ystod y cyfnod hwn o ynysu ac o gadw pellter cymdeithasol, daeth I S O S T A S Y i fod.

Rydw i wedi cydweithio â Marc ar brosiectau ers 2011, ac mae gennyn ni broses greadigol rwydd tu hwnt, proses sydd bron yn delepathig. Yn ystod y cyfnod clo, bydden ni’n cyfarfod o bellter i fynd â’r cŵn am dro yn y parc, ac yn ceisio meddwl sut y byddai modd bwrw ymlaen â phrosiectau, a hyd yn oed â gyrfaoedd. Un o’r syniadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwn oedd ail-greu ECHO ar ffurf ffilm, a dros y misoedd nesaf a’r troeon niferus fe ddechreuon ni lunio cynllun ar gyfer ISOSTASY. Roedden ni am gadw cynifer o elfennau’r prosiect gwreiddiol â phosib, gan gynnwys ysgrifennu Philip, adroddiad Cerys, a recordiad Chris Watson o gân y morfil. Ond y tu hwnt i hynny, roedd popeth arall i’w drafod. Cawson ni ein hysbrydoli gan raglen deledu The Terror ac fe ddibynnais rywfaint ar fy hen yrfa hwylio. Wrth gyfuno hynny â’r sylfeini o ECHO ac arteffactau Edgar Evans yn warws anferth Amgueddfa Abertawe, dechreuodd y darnau ddod at ei gilydd.

Roedd saethu’r ffilm yn weddol syml, a’r cyfan wedi’i wneud dros ddwy noson – pump awr bob tro. Dim ond ychydig o osodiadau arbennig oedd angen amser i’w creu, sef y storm eira mewn llestr gwydr, a’r olygfa wrth y bwrdd. Ymunodd Matt Smith, sydd hefyd wedi cydweithio â ni ers tro byd, fel Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth, a gyda’n gilydd llwyddon ni i greu ffilm atgofus a chyfoethog iawn. Roedd presenoldeb Anthony Evans fel prif gymeriad yn golygu ei fod yn berffaith i gyfleu Edgar Evans wrth i ni ei ddilyn ar y daith sinematig hon.
Dim ond wrth olygu y penderfynais geisio cyfuno’r Gymraeg a’r Saesneg yn un llif barddonol. Roedd gweithio â llais hyfryd Cerys Matthews yn golygu bod plethu’r ddwy iaith yn waith hawdd iawn, ac rydyn ni’n hynod o falch â’r canlyniad yn y diwedd. Buon ni’n gweithio hefyd gyda Tic Ashfield a gyfansoddodd gefndir sain prydferth, syml, benywaidd ei naws, i gyd-fynd â’r elfennau eraill sy’n dra gwrywaidd eu natur. Mae dyluniad y sain a’r cymysgu wrth dros-seinio yn elfennau hanfodol mewn unrhyw ffilm, a chreodd Owen Peters fomentau hynod o realistig yn y ffilm. Mae ei waith yn disgleirio yn enwedig yn ystod yr olygfa ar y bwrdd, lle mae tywallt halen yn troi’n storm eira yn yr Antarctig. Gwnaeth Nicholas Davies o Meteor Sounds waith hyfryd wrth gymysgu’r sain ar gyfer y ffilm derfynol, gan blethu’r holl elfennau sain ynghyd mewn cymysgedd sain amgylchynol 5.1 perffaith.

Roedd yn rhaid i olwg gyffredinol y ffilm deimlo’n realistig ac yn gwbl sinematig. Roedd yn rhaid i’r tywyllwch y tu hwnt i’r dortsh ar y pen deimlo’n ddwfn ac yn ddi-ben-draw, ac roedd graddiad lliw Matt Smith yn gytbwys iawn; heb olau o gwbl yn y darnau tywyllaf, a’r lliwiau’n rymus. I feddwl bod hon yn ffilm a gafodd ei chreu mewn tair wythnos, rwy’n teimlo’n falch iawn o’r hyn mae’r tîm wedi’i greu, sef llef o ddyfnderoedd y cefnfor.

Simon Clode

Gadael ymateb

You can use these tags: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong>