LLAWN01
LLAWN01
Medi 2013 | Llandudno Arts Weekend No1: Comisiynwyd gan Ystadau Mostyn a Mostyn.
Gŵyl fechan oedd LLAWN01 a aeth ati i ail-afael a chofio hanes cudd Llandudno. Gwnaed hyn mewn modd unigryw; drwy gelf, arteffact, pensaernïaeth, gweithred / cydweithiad a chyfranogi. Dros un penwythnos prysur, cyflwynwyd gwaith amrywiol ar nifer o wahanol safleoedd, gan gynnwys adeiladau (yn aml rhai gwaharddedig), y palmant, y promenâd, y pier, peiriannau ymdrochi, siopau gwag, orielau, capeli, y siambr dywyll (ail-agorwyd ar gyfer yr ŵyl) a mannau anghyffredin eraill. Yn y bôn, roedd LLAWN01 yn ddathliad o Landudno a’i thalgylch a ddefnyddiodd adeiladau a gwrthrychau lleol i archwilio gwreiddiau gwledig a dinesig y dref. Talodd y prosiect sylw i hen adeiladau, ailgyflwynodd strwythur Fictorianaidd symudol nodedig (y siambr dywyll), ac fe gyflwynwyd y cyfan o fewn cyd-destun cyfoes cyfranogol.
Mi aeth Rees ymlaen i guradu LLAWN02 a 03
Gweler y rhaglenni yma
Cynhyrchydd: Christine Matthews Sheen