Marc Rees

Rydw i’n creu ac yn curadu perfformiadau a gwaith gosod sy’n ymateb i le a chymuned.

Gellir honni fy mod yn gweithio mewn modd tebyg i archeolegydd; rwy’n archwilio hanes pethau a lleoedd gan ddatgelu olion gwir a dychmygol. Wedi i mi archwilio safle neu gyfnod penodol o hanes, af ati i weithio gydag artistiaid, perfformwyr a’r gymuned i ddehongli ac ail-ddychmygu’r hyn yr wyf wedi ei ddarganfod.

Caiff yr hanes hwn ei siapio a’i ddatblygu ac yna’i ail-gyflwyno i gynulleidfa fel profiad hollgynhwysol

Llun – Jon Poutney