{150}
{150}, cynhyrchiad aml-blatfform wedi ei greu gan yr artist Marc Rees, yn cael ei lwyfannu yn Storfa’r Tŷ Opera Brenhinol yn Aberdâr, Mehefin-Gorffennaf 2015.
Bydd dau gwmni theatr cenedlaethol Cymru yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf, gydag un o’n prif artisiaid theatr, Marc Rees, i adrodd stori wir, arwrol, llawn antur.
Yn 1865, fe ymadawodd 150 o ddynion, menywod a phlant â Chymru i chwilio am fywyd gwell ym Mhatagonia, De America. Bydd y cynhyrchiad aml-blatfform hwn – a berfformir yn Gymraeg, Saesneg a Sbaeneg, ac sy’n cynnwys digwyddiadau byw a ffilm – yn adrodd hanes rhai o uchafbwyntiau eu taith anhygoel, ac yn mynd ar drywydd eu disgynyddion yn Y Wladfa heddiw.
Bydd {150} yn cael ei lwyfannu yn Storfa’r Tŷ Opera Brenhinol ger Aberdâr, adeilad enfawr nad yw fel arfer ar agor i’r cyhoedd. Bydd y perfformwyr yn cynnwys: Gareth Aled, Rosalind Brooks, Dafydd Emyr, Angharad Harop, Eddie Ladd, Beth Powlesland, Caroline Sabin a Lara Ward, yn ogystal â pherfformwyr gwâdd Billy Hughes a Fernando Williams o’r Ariannin.
Wedi’i integreiddio yn y perfformiad byw bydd darnau o ffilm sydd wedi’i chomisiynu’n arbennig gan S4C, ac wedi ei hysgrifennu gan Roger Williams a’i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones. Mi gaiff y ffilm, sydd wedi’i chynhyrchu gan Joio, ei darlledu’n llawn ar S4C ar ddiwedd mis Gorffennaf 2015.