En Residencia
Mawrth 2009 | Comisiynwyd gan Laboral Ciudad de la Cultura, Gijon, Sbaen. Cyfres o berfformiadau wedi eu creu gan ugain o artistiaid gweledol a symudol o Gymru ac Asturias. Cynhyrchiad ar y cyd â’r dramodydd Benedict Anderson, wedi ei guradu gennyf i.
Gwaith gosod ar safle oedd En Residencia, a chanlyniad cyfnod preswyl o bythefnos, yn Sbaen. Bu grŵp o artistiaid rhyngwladol yn ymateb i leoedd yn ardal Laboral Ciudad de la Cultura, Gijon, Sbaen. Buont yn gweithio mewn labordy ar safle arbennig yn yr ardal.
Sbardunwyd y gwaith gan yr amgylchfyd unigrywa phethau cofiadwy cysylltiedig yr ardal; yn benodol deunydd yr archif, arteffactau wedi’u gadael ar ôl a hanes arbennig y lleoliad.
Ni addaswyd adain dde adeilad Laboral (sy’n cynnwys dosbarthiadau, grisiau, swyddfeydd ac ati) ond fe llenwyd â nifer o wrthrychau a channoedd o ddodrefn. Roedd y gwrthrychau’n daclus ac yn anhrefnus bob yn ail.
Rhannwyd y gofodau rhwng yr artistiaid er mwyn iddyn nhw eu hail-ddychmygu ac ail-fywiogi, a chreu En Residencia
Cynhyrchydd: Siân Thomas
Artistiaid a gymerodd ran
Holly Davey, Anthony Shapland, Richard Morgan, Benedict Anderson, Tanja Råman, John Collingswood, Cai Tomos, Simon Whitehead, John Rowley, Montse Penela, Monica Garcia, Pelayo Varela, Nel Amaro, Fiumfoto, Avelino Sala, Melville Mitchell, Marc Rees , Orson San Pedro
Cymerwch olwg ar lyfryn En Residencia