Raw Material: Llareggub Revisited

May 2014 // Comisiynwyd gan National Theatre Wales a BBC Cymru

RAW MATERIAL : LLAREGGUB REVISITED: Cynhyrchiad National Theatre Wales mewn cydweithrediad â BBC Cymru wedi’i ddyfeisio gan Rees a Jon Tregenna. Dros 3 niwrnod yn ystod mis Mai, daeth 600 o bobl i Dalacharn (‘tref rhyfeddaf Cymru’ yn ôl Dylan) er mwyn cymryd rhan mewn helfa drysor synhwyraidd.

Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Thomas daeth grŵp o ‘dwristiaid’ i Dalacharn ar gyfer taith arbennig o amgylch y dref eiconig gyda’u tywysydd Roy Ebsworth-Williams o gwmni bws Super Elite. Cafodd y grŵp eu herwgipio gan VOYCE, gwallgofddyn barfog a main â’i bryd ar dalu teyrnged unigryw ei hun i Dylan Thomas, Talacharn a byd hudolus ‘Under Milk Wood’. Heb i Roy wybod roedd VOYCE eisoes wedi addasu map y dref i weddu ei weledigaeth unigryw. Rhoddwyd y map i’r ‘twristiaid’ ac aethant ar daith o amgylch y dref, lle gwelsant gyfosodiadau a digwyddiadau amrywiol, oll yn pwysleisio’r cariad â deimlai Dylan tuag at y dref a’i phobl.

Credodd VOYCE petai Dylan yn fyw heddiw, byddai’r un mor debygol o ysgrifennu Under Milk Wood ag y bu nôl yn y 1950au, gan fod yr un cymeriadau yn byw ac yn bod yno o hyd.

Cymeriad dirgel braidd oedd VOYCE; lladratwr hoffus a aeth ati i gasglu deunydd crai o’r pentref ac i hel atgofion y bobl leol, er mwyn creu cyflwyniad unigryw a phrofiad hollgynhwysol i’r twristiaid.

Ar hyd y daith, gwelodd y twristiaid y pethau canlynol: tylluanod byw, tacsidermi, car carnifal rithiol, lliain bwrdd wedi ei wneud o halen, bwi pendil, copi o beintiad ar gynfas o’r 1950au, mynwent yn llawn drychau, dynes troedweog yn gwerthu cocos ac yn canu, sied mewn siap llong, tai teras rhychiog, Willy Nilly y postmon go-iawn, hwyl llong wedi ei gadael, Trydaru jac-y-do, Plant ysgol yn ‘rapio’ geiriau Dylan. Ffigurau Under Milk Wood wedi eu gwau, caeadau eirch OSB, crëyr glas, baneri wedi eu creu allan o ddillad isaf, Tom Jones fel Captain Cat . bara mynwesol. Darlun sialc ar balmant i ddangos lleoliad llofryddiaeth buwch, Cwrw tywyll. Cregyn cocos euraidd, trac sain cerddoriaeth Stravinsky . canŵ yn hongian a fan Rolls Royce yn gwerthu pysgod asglodion.

The whole show was a reminder that art at its best is impressionistic, imagistic, transitory; it hovers on the edges of imagination, just out of explanation’s reach.

Raw Material: Llareggub Revisited fuses elements of NTW’s celebrated Passion of Port Talbot, in which all the town was a stage, with the ethos of Punchdrunk, inviting the audience to roam in search of a centrifugal narrative.