CASGLIAD \ COLLECTION
ARCHIFDAITH – Ebrill 2016
Perfformiad a gosodwaith symudol fydd yn uno’r gorffennol a’r presennol ar ffurf siwrne drwy ofodau cyhoeddus Pontio gan baentio’r gofod mewn hanes.
2 archifwr
100 o focsys
50 o gofnodion catalog
2 megaffon
Dros ddwy awr, bydd yr artistiaid Cai Tomos a Marc Rees yn adeiladu/dadadeiladu ffurfiau pensaernïol/archeolegol dychmygol er mwyn datgan ffeithiau hanesyddol lleol drwy gyfres o ymdrechion coreograffig.
Mewn partneriaeth â Pontio, Llyfrgell ac Archifau a Chanolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor.
Ffilm fer yn esbonio ARCHIFDAITH
Ffilmiau gan Culture Colony
DAETH DYDD TARO – Awst 2016
Perfformiad a ddyfeisiwyd fel rhan o adnodd Theatr Gorfforol ar-lein ar gyfer ysgolion uwchradd trwy gyfrwng Cymraeg a gomisiynwyd gan CBAC
Adnodd all gynnig ffyrdd i athrawon i gyflwyno arddull Theatr Gorfforol i’w disgyblion. Ceir yma weithdai adeiladol ac ysbrydoledig gan Marc Rees ac Eddie Ladd sy’n ymarferwyr blaengar o fewn y theatr yng Nghymru. Cefnogir yr adnoddau ymarferol gan adnoddau ysgrifenedig a grëwyd gan rhai o athrawon ac arholwr Drama fwyaf profiadol Cymru.
THE DANCING MARQUISE DIARIES – July 2007
Ffilm fer fel rhagarweiniad ac wedi’i chynnwys yn unawd Rees Gloria Days yn seiliedig ar 5ed Ardalydd Ynys Môn Henry Cyril Paget.
Mae Gloria Days yn berfformiad amlddisgyblaethol wedi’i seilio ar 5ed Ardalydd Ynys Môn, Henry Cyril Paget. Yn dwyn yr enw ‘The Dancing Marquis’, heriodd a gwyrdroodd Paget syniadau Edwardaidd o ddosbarth, rhyw, addurn a phriodoldeb theatraidd. Mae ei ffordd o fyw anhygoel a’i gwymp aflafar dilynol yn ganolbwynt i’r gwaith unigol unigryw hwn a berfformiwyd am y tro cyntaf fel rhan o Ŵyl Abertawe ym mis Hydref 2007.