For Mountain, Sand & Sea

June 2010 // Commissioned by National Theatre Wales as part of their inaugural year in 2010.

Mehefin 2010 | Comisiynwyd gan National Theatre Wales yn rhan o raglan eu blwyddyn agoriadol yn 2010.

Yn gyfuniad o waith gosod celfyddydol a’r maes chwarae, roedd ‘For Mountain, Sand and Sea’ yn ymateb i leoliad a nodweddion unigryw Bermo yng Ngogledd Cymru, yn benodol yr archif hanesyddol arbennig sydd wedi ei chasglu gan y gymuned leol. Roedd y casgliad arbennig hwn yn ffynhonnell gyfoethog o storiâu a hanesion y dref. Wedi ymchwilio’r archif, rhoddwyd y straeon ac atgofion personol hyn i artistiaid o Gymru ac artistiaid rhyngwladol, a gofynnwyd iddynt ddod a’r atgofion yn fyw.

Dechreuodd ‘For Mountain Sea and Sand’ gyda cherflun cymdeithasol a ddaeth a’r archif yn fyw. Dros gyfnod o ddwy awr a hanner, aeth y gynulleidfa (gyda thywysydd) i fannau penodol o Fermo, lle gwelont berfformiadau byr a gweithredoedd gan yr artistiaid, oll yn ymwneud â’r archif.

Cynhyrchydd: Siân Thomas

nationaltheatrewales.org/mountainsandsea