NAWR YR ARWR / NOW THE HERO

September 2018 // Comisiynwyd gan 14-18 NOW / Cyngor Celfyddydau Cymru. Cynhyrchiwyd gan Canolfan Celfeddydau Taliesin

Roedd cynhyrchiad beiddgar Marc Rees yn adrodd tair stori ryfel a’r rheini’n cydblethu ac yn dod yn fyw gyda gwrthbwynt o heddwch a gobaith. Fe gafodd Rees ei ysbrydoli gan cerdd epig hynafol,  portread o filwr o Abertawe sy’n gwasanaethu heddiw, a Phaneli’r Ymerodraeth Brydeinig gan Syr Frank Brangwyn.

Yn ganolog i’r perfformiad roedd Requiem gyda libreto gan Owen Sheers, yr awdur sydd wedi ennill gwobr BAFTA. Polyphony, côr byd-enwog Stephen Layton, a oedd yn canu . Owen Morgan Roberts a cyfansoddodd y gerddoriaeth, a honno’n deillio o gywaith gwreiddiol rhyngddo a’r diweddar Jóhann Jóhannsson, a enwebwyd am ddau Oscar.

Roedd y digwyddiad yn rhan bwysig iawn o flwyddyn olaf rhaglen 14-18 NOW, sef comisiwn celfyddydol y Deyrnas Unedig i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr.

https://www.nawryrarwr.cymru/